SL(6)392 – Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2023

Cefndir a diben

Nod Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 (Rheoliadau 2021) yw mynd i'r afael â’r hyn sy’n achosi llygredd dŵr sy’n deillio o weithgareddau amaethyddol ledled Cymru. 

Mae Rheoliadau 2021 yn gosod terfynau ar ddodi tail organig: mae rheoliad 4 o Reoliadau 2021 yn cyfyngu cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw y caniateir ei ddodi ar ddaliad (boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu) i 170kg wedi’i luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau.

Ar gyfer daliadau nad oeddent gynt mewn parth perygl nitradau, roedd rheoliad 4 yn ddarostyngedig i gyfnod trosiannol. Ar gyfer daliadau o'r fath, y bwriad gwreiddiol oedd y byddai rheoliad 4 yn gymwys o 30 Ebrill 2023. Ym mis Ebrill 2023, newidiwyd y dyddiad hwnnw i 31 Hydref 2023. Nawr, mae'r Rheoliadau hyn yn newid y dyddiad hwnnw eto, gan estyn y cyfnod trosiannol am 2 fis arall fel y bydd rhaid i ddaliadau nad oeddent gynt mewn parth perygl nitradau gydymffurfio â'r terfyn 170kg o 1 Ionawr 2024.

Oherwydd bod y dyddiadau wedi newid, mae’r gofynion cysylltiedig o ran cadw cofnodion yn rheoliad 36 o Reoliadau 2021 hefyd wedi eu diwygio.

Nid yw’r Rheoliadau hyn yn newid cymhwysiad y terfyn 170kg i ddaliadau a oedd gynt mewn parth perygl nitradau.

Y weithdrefn

Negyddol

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn

Yn rheoliad 2(3)(a), mae gwahaniaeth bach rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg a allai o bosibl arwain at eu dehongli’n wahanol. Yn y testun Saesneg, mae’r testun newydd yn dweud “any year beginning 1 January”, ond mae’r cyfieithiad yn dweud “unrhyw flwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ionawr”. Yn y Nodyn Esboniadol, nodir yn y ddwy iaith fod rheoliad 2(3) yn diwygio rheoliad 4 fel bod terfyn uchaf y nitrogen mewn tail da byw yn gymwys i bob cyfnod o 12 mis “sy’n dechrau â 1 Ionawr”.

Mae canllawiau drafftio Llywodraeth Cymru yn argymell osgoi defnyddio “ar” wrth ddisgrifio dechrau neu ddiwedd cyfnodau amser – gweler Drafftio Deddfau i Gymru8.3 ac 8.4. Mae hyn oherwydd y gall defnyddio “ar” beri amheuaeth ynghylch a fydd y cyfnod yn dechrau neu'n gorffen ar amser penodol ar y diwrnod hwnnw. Mae’r canllawiau drafftio yn argymell defnyddio “â” er eglurder ac er mwyn osgoi unrhyw amwysedd.

Fodd bynnag, nodwn fod y gwahaniaeth hwn rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg wrth ddisgrifio dechrau a diwedd cyfnodau eisoes yn bodoli yn nhestun dwyieithog Rheoliadau 2021 mewn rhai mannau.

Rhinweddau: craffu    

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

18 Hydref 2023